Salmau 137:1-9 BCN1988 - Bible AI

1Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion.

2Ar yr helyg yno bu inni grogi ein telynau,

3oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am g�n, a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch. "Canwch inni," meddent, "rai o ganeuon Seion."

4Sut y medrwn ganu c�n yr ARGLWYDD mewn tir estron?

5Os anghofiaf di, Jerwsalem, bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;

6bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenau os na chofiaf di, os na osodaf Jerwsalem yn uwch na'm llawenydd pennaf.

7O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edom ddydd gofid Jerwsalem, am iddynt ddweud, "I lawr � hi, i lawr � hi hyd at ei sylfeini."

8O ferch Babilon, a ddistrywir, gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n �l i ti am y cyfan a wnaethost i ni.

9Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.