Salmau 138:1-8 BCN1988 - Bible AI

11 I Ddafydd.0 Clodforaf di �'m holl galon, canaf fawl i ti yng ngu373?ydd duwiau.

2Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.

3Pan elwais arnat, atebaist fi, a chynyddaist fy nerth ynof.

4Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD, am iddynt glywed geiriau dy enau;

5bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD, oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.

6Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel, ac fe ddarostwng y balch o bell.

7Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi; estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion, a gwaredaist fi �'th ddeheulaw.

8Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan. O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth; paid � gadael gwaith dy ddwylo.