Salmau 14:1-7 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.0 Dywed yr ynfyd yn ei galon, "Nid oes Duw." Gwn�nt weithredoedd llygredig a ffiaidd; nid oes un a wna ddaioni.

2Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd ar ddynolryw, i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth ac yn ceisio Duw.

3Ond y mae pawb ar gyfeiliorn, ac mor llygredig �'i gilydd; nid oes un a wna ddaioni, nac oes, dim un.

4Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd, ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?

5Yno y byddant mewn dychryn mawr, am fod Duw yng nghanol y rhai cyfiawn.

6Er i chwi watwar cyngor yr anghenus, yr ARGLWYDD yw ei noddfa.

7O na dd�i gwaredigaeth i Israel o Seion! Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl, fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>