Salmau 140:1-13 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,

2rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon, a phob amser yn codi cythrwfl.

3Y mae eu tafod yn finiog fel sarff, ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau. Sela.

4O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu, rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.

5Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi, a rhai dinistriol yn taenu rhwyd, ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd. Sela.

6Dywedais wrth yr ARGLWYDD, "Fy Nuw wyt ti"; gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.

7O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn, cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8O ARGLWYDD, paid � rhoi eu dymuniad i'r drygionus, paid � llwyddo eu bwriad. Sela.

9Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen, ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.

10Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt; bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.

11Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad; bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.

12Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder �'r truan, ac y rhydd farn i'r anghenus.

13Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw; bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb.

>