11 I Ddafydd.0 Bendigedig yw yr ARGLWYDD, fy nghraig; ef sy'n dysgu i'm dwylo ymladd, ac i'm bysedd ryfela;
2fy ngh�r a'm cadernid, fy nghaer a'm gwaredydd, fy nharian a'm lloches, sy'n darostwng pobloedd odanaf.
3O ARGLWYDD, beth yw meidrolyn, i ti ofalu amdano, a'r teulu dynol, i ti ei ystyried?
4Y mae'r meidrol yn union fel anadl, a'i ddyddiau fel cysgod yn mynd heibio.
5ARGLWYDD, agor y nefoedd a thyrd i lawr, cyffwrdd �'r mynyddoedd nes eu bod yn mygu;
6saetha allan fellt nes eu gwasgaru, anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.
7Estyn allan dy law o'r uchelder, i'm hachub ac i'm gwaredu o ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid
8sy'n dweud celwydd �'u genau, a'u deheulaw'n llawn ffalster.
9Canaf g�n newydd i ti, O Dduw, canaf gyda'r offeryn dectant i ti,
10ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd, ac yn achub Dafydd ei was.
11Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon; gwared fi o law estroniaid, sy'n dweud celwydd �'u genau, a'u deheulaw'n llawn ffalster.
12Bydded ein meibion fel planhigion yn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid, a'n merched fel pileri cerfiedig mewn adeiladwaith palas.
13Bydded ein hysguboriau yn llawn o luniaeth o bob math; bydded ein defaid yn filoedd ac yn fyrddiynau yn ein meysydd;
14bydded ein gwartheg yn drymion, heb anap nac erthyliad; ac na fydded gwaedd ar ein strydoedd.
15Gwyn eu byd y bobl sydd fel hyn. Gwyn eu byd y bobl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddynt.