Salmau 147:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Molwch yr ARGLWYDD. Da yw canu mawl i'n Duw ni, oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.

2Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem, y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.

3Y mae'n iach�u'r rhai drylliedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.

4Y mae'n pennu nifer y s�r, ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.

5Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth; y mae ei ddoethineb yn ddifesur.

6Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig, ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.

7Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch, canwch fawl i'n Duw �'r delyn.

8Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd � chymylau, ac yn darparu glaw i'r ddaear; y mae'n gwisgo'r mynyddoedd � glaswellt, a phlanhigion at wasanaeth pobl.

9Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid, a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.

10Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march, nac yn cael pleser yng nghyhyrau gu373?r;

11ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni, y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.

12Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem; mola dy Dduw, O Seion,

13oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth, a bendithiodd dy blant o'th fewn.

14Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau, ac yn dy ddigoni �'r u375?d gorau.

15Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear, ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.

16Y mae'n rhoi eira fel gwl�n, yn taenu barrug fel lludw,

17ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion; pwy a all ddal ei oerni ef?

18Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi; gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd.

19Y mae'n mynegi ei air i Jacob, ei ddeddfau a'i farnau i Israel;

20ni wnaeth fel hyn ag unrhyw genedl, na dysgu iddynt ei farnau. Molwch yr ARGLWYDD.

>