1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd, molwch ef yn yr uchelderau.
2Molwch ef, ei holl angylion; molwch ef, ei holl luoedd.
3Molwch ef, haul a lleuad; molwch ef, yr holl s�r disglair.
4Molwch ef, nef y nefoedd, a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.
5Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;
6fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd; rhoes iddynt ddeddf nas torrir.
7Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear, chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,
8t�n a chenllysg, eira a mwg, y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;
9y mynyddoedd a'r holl fryniau, y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;
10anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof, ymlusgiaid ac adar hedegog;
11brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd, tywysogion a holl farnwyr y ddaear;
12gwu375?r ifainc a gwyryfon, hynafgwyr a llanciau hefyd.
13Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig, ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.
14Y mae wedi dyrchafu corn ei bobl, ac ef yw moliant ei holl ffyddloniaid, pobl Israel, sy'n agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.