1Molwch yr ARGLWYDD. Canwch i'r ARGLWYDD g�n newydd, ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid.
2Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin.
3Molwch ei enw � dawns, canwch fawl iddo � thympan a thelyn.
4Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl; y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig.
5Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant, a llawenhau ar eu clustogau.
6Bydded uchel-foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu llaw
7i weithredu dial ar y cenhedloedd a cherydd ar y bobloedd;
8i rwymo eu brenhinoedd mewn cadwynau, a'u pendefigion � gefynnau haearn;
9i weithredu'r farn a nodwyd ar eu cyfer. Ef yw gogoniant ei holl ffyddloniaid. Molwch yr ARGLWYDD.