Salmau 16:1-11 BCN1988 - Bible AI

11 Michtam. I Ddafydd.0 Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti.

2Dywedais wrth yr ARGLWYDD, "Ti yw f'arglwydd, nid oes imi ddaioni ond ynot ti."

3Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad, melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.

4Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill; ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm, na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.

5Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan, ti sy'n diogelu fy rhan;

6syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.

7Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.

8Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.

9Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd, a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;

10oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol, ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.

11Dangosi i mi lwybr bywyd; yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd, ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.