1Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r bobloedd yn cynllwyn yn ofer?
2Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod, a'r llywodraethwyr yn ymgynghori �'i gilydd yn erbyn yr ARGLWYDD a'i eneiniog:
3Gadewch inni ddryllio eu rhwymau, a thaflu ymaith eu rheffynnau."
4Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd; y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar.
5Yna fe lefara wrthynt yn ei lid a'u dychryn yn ei ddicter:
6Yr wyf fi wedi gosod fy mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd."
7Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD. Dywedodd wrthyf, "Fy mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw;
8gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth, ac eithafoedd daear yn eiddo iti;
9fe'u drylli � gwialen haearn a'u malurio fel llestr pridd."
10Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth; farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor;
11gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, mewn cryndod cusanwch ei draed,
12rhag iddo ffromi ac i chwi gael eich difetha; oherwydd fe gyneua ei lid mewn dim. Gwyn eu byd y rhai sy'n llochesu ynddo.