11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Bydded i'r ARGLWYDD dy ateb yn nydd cyfyngder, ac i enw Duw Jacob dy amddiffyn.
2Bydded iddo anfon cymorth i ti o'r cysegr, a'th gynnal o Seion.
3Bydded iddo gofio dy holl offrymau, ac edrych yn ffafriol ar dy boethoffrymau. Sela.
4Bydded iddo roi i ti dy ddymuniad, a chyflawni dy holl gynlluniau.
5Bydded inni orfoleddu yn dy waredigaeth, a chodi banerau yn enw ein Duw. Bydded i'r ARGLWYDD roi iti'r cyfan a ddeisyfi.
6Yn awr fe wn fod yr ARGLWYDD yn gwaredu ei eneiniog; y mae'n ei ateb o'i nefoedd sanctaidd trwy waredu'n nerthol �'i ddeheulaw.
7Ymffrostia rhai mewn cerbydau ac eraill mewn meirch, ond fe ymffrostiwn ni yn enw'r ARGLWYDD ein Duw.
8Y maent hwy'n crynu ac yn syrthio, ond yr ydym ni'n codi ac yn sefyll i fyny.
9O ARGLWYDD, gwareda'r brenin; ateb ni pan fyddwn yn galw.