Salmau 21:1-13 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth; mor fawr yw ei orfoledd yn dy waredigaeth!

2Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon, ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau. Sela.

3Daethost i'w gyfarfod � bendithion daionus, a rhoi coron o aur coeth ar ei ben.

4Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo � hir ddyddiau byth bythoedd.

5Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth; yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,

6yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros byth ac yn ei lawenhau � gorfoledd dy bresenoldeb.

7Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD, ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir.

8Caiff dy law afael ar dy holl elynion, a'th ddeheulaw ar y rhai sy'n dy gas�u.

9Byddi'n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan ymddangosi; bydd yr ARGLWYDD yn eu difa yn ei lid, a'r t�n yn eu hysu.

10Byddi'n dinistrio'u hepil oddi ar y ddaear, a'u plant o blith y ddynolryw.

11Yr oeddent yn bwriadu drwg yn d'erbyn, ac yn cynllunio niwed heb lwyddo;

12oherwydd byddi di'n gwneud iddynt ffoi, ac yn anelu at eu hwynebau �'th fwa.

13Dyrchafa, ARGLWYDD, yn dy nerth! Cawn ganu a'th ganmol am dy gryfder!