11 I'r Cyfarwyddwr: ar Ewig y Wawr. Salm. I Ddafydd.0 Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael, ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan?
2O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb, a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.
3Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu yn foliant i Israel.
4Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried, yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.
5Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy, ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.
6Pryfyn wyf fi ac nid dyn, gwawd a dirmyg i bobl.
7Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar, yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:
8Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub! Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!"
9Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth, a'm rhoi ar fronnau fy mam;
10arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth, ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.
11Paid � phellhau oddi wrthyf, oherwydd y mae fy argyfwng yn agos ac nid oes neb i'm cynorthwyo.
12Y mae gyr o deirw o'm cwmpas, rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;
13y maent yn agor eu safn amdanaf fel llew yn rheibio a rhuo.
14Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel du373?r, a'm holl esgyrn yn ymddatod; y mae fy nghalon fel cwyr, ac yn toddi o'm mewn;
15y mae fy ngheg yn sych fel cragen a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau; yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.
16Y mae cu373?n o'm hamgylch, haid o ddihirod yn cau amdanaf; y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.
17Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn, ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.
18Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.
19Ond ti, ARGLWYDD, paid � sefyll draw; O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.
20Gwared fi rhag y cleddyf, a'm hunig fywyd o afael y cu373?n.
21Achub fi o safn y llew, a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.
22Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod, a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:
23Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD; rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob; ofnwch ef, holl dylwyth Israel.
24Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru gorthrwm y gorthrymedig; ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho, ond gwrando arno pan lefodd."
25Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr, a thalaf fy addunedau yng ngu373?ydd y rhai sy'n ei ofni.
26Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon, a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli. Bydded i'w calonnau fyw byth!
27Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD, a holl dylwythau'r cenhedloedd yn ymgrymu o'i flaen.
28Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth, ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd.
29Sut y gall y rhai sy'n cysgu yn y ddaear blygu iddo ef, a'r rhai sy'n disgyn i'r llwch ymgrymu o'i flaen? Ond byddaf fi fyw iddo ef,
30a bydd fy mhlant yn ei wasanaethu; dywedir am yr ARGLWYDD wrth genedlaethau i ddod,
31a chyhoeddi ei gyfiawnder wrth bobl heb eu geni, mai ef a fu'n gweithredu.