11 Salm. I Ddafydd.0 Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
2Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
3ac y mae ef yn fy adfywio. Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
4Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.
5Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngu373?ydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.
6Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o'm bywyd, a byddaf yn byw yn nhu375?'r ARGLWYDD weddill fy nyddiau.