Salmau 26:1-12 BCN1988 - Bible AI

11 I Ddafydd.0 Barna fi, O ARGLWYDD, oherwydd rhodiais yn gywir ac ymddiried yn yr ARGLWYDD heb ballu.

2Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi, rho brawf ar fy nghalon a'm meddwl.

3Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid, ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd.

4Ni f�m yn eistedd gyda rhai diwerth, nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.

5Yr wyf yn cas�u cwmni'r rhai drwg, ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus.

6Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog, ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD,

7a chanu'n uchel mewn diolchgarwch ac adrodd dy holl ryfeddodau.

8O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tu375? lle'r wyt yn trigo, y man lle mae dy ogoniant yn aros.

9Paid �'m rhoi gyda phechaduriaid, na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd,

10rhai sydd � chamwri ar eu dwylo a'u deheulaw'n llawn o lwgr-wobrwyon.

11Ond amdanaf fi, yr wyf yn rhodio'n gywir; gwareda fi a bydd drugarog wrthyf.

12Y mae fy nhraed yn gadarn mewn uniondeb; bendithiaf yr ARGLWYDD yn y gynulleidfa.