Salmau 29:1-11 BCN1988 - Bible AI

11 Salm. I Ddafydd.0 Rhowch i'r ARGLWYDD, fodau nefol, rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant a nerth.

2Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw; ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.

3Y mae llais yr ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd; Duw'r gogoniant sy'n taranu; y mae'r ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd cryfion!

4Y mae llais yr ARGLWYDD yn nerthol, y mae llais yr ARGLWYDD yn ogoneddus.

5Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd; dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon.

6Gwna i Lebanon lamu fel llo, a Sirion fel ych ifanc.

7Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau t�n.

8Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu; gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu.

9Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r ewigod lydnu, ac yn prysuro geni'r llwdn; yn ei deml dywed pawb, "Gogoniant."

10Y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu uwch y llifeiriant, y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu'n frenin byth.

11Rhodded yr ARGLWYDD nerth i'w bobl! Bendithied yr ARGLWYDD ei bobl � heddwch!