Salmau 31:1-24 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches, na fydded cywilydd arnaf byth; achub fi yn dy gyfiawnder,

2tro dy glust ataf, a brysia i'm gwaredu; bydd i mi'n graig noddfa, yn amddiffynfa i'm cadw.

3Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi; er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.

4Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer, oherwydd ti yw fy noddfa.

5Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di; gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.

6Yr wyf yn cas�u'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag, ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.

7Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb, oherwydd iti edrych ar fy adfyd a rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder.

8Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn, ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored.

9Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae fy llygaid yn pylu gan ofid, fy enaid a'm corff hefyd;

10y mae fy mywyd yn darfod gan dristwch a'm blynyddoedd gan gwynfan; fe sigir fy nerth gan drallod, ac y mae fy esgyrn yn darfod.

11I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg, i'm cymdogion yn watwar, ac i'm cyfeillion yn arswyd; y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.

12Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof; yr wyf fel llestr wedi torri.

13Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd, y mae dychryn ar bob llaw; pan dd�nt at ei gilydd yn f'erbyn y maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.

14Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD, ac yn dweud, "Ti yw fy Nuw."

15Y mae fy amserau yn dy law di; gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.

16Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was; achub fi yn dy ffyddlondeb.

17ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat; doed cywilydd ar y drygionus, rhodder taw arnynt yn Sheol.

18Trawer yn fud y gwefusau celwyddog, sy'n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawn mewn balchder a sarhad.

19Mor helaeth yw dy ddaioni sydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni, ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot, a hynny yng ngu373?ydd pawb!

20Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb rhag y rhai sy'n cynllwyn; fe'u cedwi dan dy gysgod rhag ymryson tafodau.

21Bendigedig yw'r ARGLWYDD a ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol ataf yn nydd cyfyngder.

22Yn fy nychryn fe ddywedais, "Torrwyd fi allan o'th olwg." Ond clywaist lef fy ngweddi pan waeddais arnat am gymorth.

23Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid. Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon, ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.

24Byddwch gryf a gwrol eich calon, yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD.