11 I Ddafydd, pan newidiodd ei wedd o flaen Abimelech, a chael ei yrru ymaith a mynd.0 Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau.
2Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf; bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.
3Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.
4Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi a'm gwaredu o'm holl ofnau.
5Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi, ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.
6Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.
7Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu.
8Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.
9Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef, oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.
10Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu, ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.
11Dewch, blant, gwrandewch arnaf, dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.
12Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?
13Cadw dy dafod rhag drygioni a'th wefusau rhag llefaru celwydd.
14Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda, ceisia heddwch a'i ddilyn.
15Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri.
16Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg, i ddileu eu coffa o'r ddaear.
17Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.
18Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
19Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn, ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.
20Ceidw ei holl esgyrn, ac ni thorrir yr un ohonynt.
21Y mae adfyd yn lladd y drygionus, a chosbir y rhai sy'n cas�u'r cyfiawn.
22Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision, ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.