Salmau 36:1-12 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD.0 Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon; nid oes ofn Duw ar ei gyfyl.

2Llwydda i'w dwyllo ei hun na ellir canfod ei ddrygioni i'w gas�u.

3Niwed a thwyll yw ei holl eiriau; peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.

4Cynllunia ddrygioni yn ei wely; y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir, ac nid yw'n gwrthod y drwg.

5Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd, a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;

6y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel a'th farnau fel y dyfnder mawr; cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.

7Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw! Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.

8Fe'u digonir � llawnder dy du375?, a diodi hwy o afon dy gysuron;

9oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd, ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.

10Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnabod a'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon.

11Na fydded i'r troed balch fy sathru, nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan.

12Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo, wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi!