Salmau 37:1-40 BCN1988 - Bible AI

11 I Ddafydd.0 Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.

2Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt, a chrino fel glesni gwanwyn.

3Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.

4Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.

5Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda.

6Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd.

7Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid � bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gu373?r sy'n gwneud cynllwynion.

8Paid � digio; rho'r gorau i lid; paid � bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.

9Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.

10Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus; er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.

11Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir ac yn mwynhau heddwch llawn.

12Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn, ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno;

13ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben, oherwydd gu373?yr fod ei amser yn dyfod.

14Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf ac yn plygu eu bwa, i ddarostwng y tlawd a'r anghenus, ac i ladd yr union ei gerddediad;

15ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain, a thorrir eu bw�u.

16Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na chyfoeth mawr y drygionus;

17oherwydd torrir nerth y drygionus, ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn.

18Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius, ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth.

19Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.

20Oherwydd fe dderfydd am y drygionus; bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn t�n, pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg.

21Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n �l, ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog.

22Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir, ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.

23Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius, y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad;

24er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal �'i law.

25B�m ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na'i blant yn cardota am fara;

26y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg, a'i blant yn fendith.

27Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda, a chei gartref diogel am byth,

28oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus.

29Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.

30Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, a'i dafod yn mynegi barn;

31y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon, ac nid yw ei gamau'n methu.

32Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawn ac yn ceisio cyfle i'w ladd;

33ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law, nac yn caniat�u ei gondemnio pan fernir ef.

34Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glu375?n wrth ei ffordd, ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir, a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.

35Gwelais y drygionus yn ddidostur, yn taflu fel blaguryn iraidd;

36ond pan euthum heibio, nid oedd dim ohono; er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.

37Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn; oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon.

38Difethir y gwrthryfelwyr i gyd, a dinistrir disgynyddion y drygionus.

39Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD; ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.

40Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed; bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub, am iddynt lochesu ynddo.