Salmau 39:1-13 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: i Jeduthun. Salm. I Ddafydd.0 Dywedais, "Gwyliaf fy ffyrdd, rhag imi bechu �'m tafod; rhof ffrwyn ar fy ngenau, pan fo'r drygionus yn f'ymyl."

2B�m yn fud a distaw, cedwais yn dawel, ond i ddim diben; gwaethygodd fy mhoen,

3llosgodd fy nghalon o'm mewn; wrth imi fyfyrio, cyneuodd t�n a thorrais allan i ddweud,

4ARGLWYDD, p�r imi wybod fy niwedd, a beth yw nifer fy nyddiau; dangos imi mor feidrol ydwyf.

5Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd, ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg; yn wir, chwa o wynt yw pob un byw, Sela.

6ac y mae'n mynd a dod fel cysgod; yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra, ac ni u373?yr pwy fydd yn ei gasglu.

7Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf? Y mae fy ngobaith ynot ti.

8Gwared fi o'm holl droseddau, paid �'m gwneud yn wawd i'r ynfyd.

9B�m yn fud, ac nid agoraf fy ngheg, oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.

10Tro ymaith dy bla oddi wrthyf; yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.

11Pan gosbi rywun � cherydd am ddrygioni, yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn; yn wir, chwa o wynt yw pawb. Sela.

12Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD, a rho glust i'm cri; paid � diystyru fy nagrau. Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf, a phererin fel fy holl hynafiaid.

13Tro draw oddi wrthyf, rho imi lawenydd cyn imi fynd ymaith a darfod yn llwyr."