Salmau 41:1-13 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd. Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;

2bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw; bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir, ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.

3Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd, ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.

4Dywedais innau, "O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf; iach� fi, oherwydd pechais yn d'erbyn."

5Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf, "Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?"

6Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol, ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf, ac yn mynd allan i'w daenu ar led.

7Y mae'r holl rai sy'n fy nghas�u yn sisial �'i gilydd, yn meddwl y gwaethaf amdanaf,

8ac yn dweud, "Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo; y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto."

9Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y b�m yn ymddiried ynddo, ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd, yn codi ei sawdl yn f'erbyn.

10O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi, imi gael talu'n �l iddynt.

11Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi: na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid.

12Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb, ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth.

13Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Amen ac Amen.