Salmau 45:1-17 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar Lil�au. I feibion Cora. Masc�l. C�n Serch.0 Symbylwyd fy nghalon gan neges dda; adroddaf fy ngh�n am y brenin; y mae fy nhafod fel pin ysgrifennydd buan.

2Yr wyt yn decach na phawb; tywalltwyd gras ar dy wefusau am i Dduw dy fendithio am byth.

3Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr; � mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.

4Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder, a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.

5Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin; syrth pobloedd odanat.

6Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol, a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.

7Ceraist gyfiawnder a chas�u drygioni; am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinio ag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.

8Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia, ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.

9Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys; saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.

10Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust: anghofia dy bobl dy hun a thu375? dy dad;

11yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch, oherwydd ef yw dy arglwydd.

12Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus, a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.

13Cwbl ogoneddus yw merch y brenin, cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,

14ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin; Ar ei h�l daw ei chyfeillesau, y morynion;

15d�nt atat yn llawen a hapus, d�nt i mewn i balas y brenin.

16Yn lle dy dadau daw dy feibion, a gwnei hwy'n dywysogion dros yr holl ddaear.

17Mynegaf dy glod dros y cenedlaethau, nes bod pobl yn dy ganmol hyd byth.