Salmau 46:1-11 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora, ar Alamoth. C�n.0 Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder.

2Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y m�r,

3er i'r dyfroedd ruo a therfysgu ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd. Sela.

4Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw, preswylfa sanctaidd y Goruchaf.

5Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi; cynorthwya Duw hi ar doriad dydd.

6Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian; pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear.

7Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela.

8Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD, fel y dygodd ddifrod ar y ddaear;

9gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear, dryllia'r bwa, tyr y waywffon, a llosgi'r darian � th�n.

10Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw, yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd, yn ddyrchafedig ar y ddaear.

11Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni. Sela.