Salmau 47:1-9 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 Curwch ddwylo, yr holl bobloedd; rhowch wrogaeth i Dduw � chaneuon gorfoledd.

2Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin mawr dros yr holl ddaear.

3Fe ddarostwng bobloedd odanom, a chenhedloedd o dan ein traed.

4Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni, balchder Jacob, yr hwn a garodd. Sela.

5Esgynnodd Duw gyda bloedd, yr ARGLWYDD gyda sain utgorn.

6Canwch fawl i Dduw, canwch fawl; canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.

7Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear; canwch fawl yn gelfydd.

8Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd, y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.

9Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnull gyda phobl Duw Abraham; oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear � fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>