Salmau 48:1-14 BCN1988 - Bible AI

11 C�n. Salm. I feibion Cora.0 Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl yn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd.

2Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd, dinas y Brenin Mawr.

3Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duw wedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa.

4Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnull ac wedi dyfod at ei gilydd;

5ond pan welsant, fe'u synnwyd, fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi;

6daeth dychryn arnynt yno, a gwewyr, fel gwraig yn esgor,

7fel pan fo gwynt y dwyrain yn dryllio llongau Tarsis.

8Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y Lluoedd, yn ninas ein Duw ni a gynhelir gan Dduw am byth. Sela.

9O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondeb yng nghanol dy deml.

10Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl yn ymestyn hyd derfynau'r ddaear. Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder;

11bydded i Fynydd Seion lawenhau. Bydded i drefi Jwda orfoleddu oherwydd dy farnedigaethau.

12Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch, rhifwch ei thyrau,

13sylwch ar ei magwyrydd, ewch trwy ei chaerau, fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi,

14Dyma Dduw! Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd, fe'n harwain yn dragywydd."