Salmau 49:1-20 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 Clywch hyn, yr holl bobloedd, gwrandewch, holl drigolion byd,

2yn wreng a bonedd, yn gyfoethog a thlawd.

3Llefara fy ngenau ddoethineb, a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus.

4Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb, a datgelaf fy nychymyg �'r delyn.

5Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd, pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,

6rhai sy'n ymddiried yn eu golud ac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?

7Yn wir, ni all neb ei waredu ei hun na thalu iawn i Dduw �

8oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd, ac ni all byth ei gyrraedd �

9iddo gael byw am byth a pheidio � gweld Pwll Distryw.

10Ond gw�l fod y doethion yn marw, fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi, ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.

11Eu bedd yw eu cartref bythol, eu trigfan dros y cenedlaethau, er iddynt gael tiroedd i'w henwau.

12Ni all neb aros mewn rhwysg; y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.

13Dyma yw tynged yr ynfyd, a diwedd y rhai sy'n cymeradwyo eu geiriau. Sela.

14Fel defaid y tynghedir hwy i Sheol; angau fydd yn eu bugeilio; disgynnant yn syth i'r bedd, a bydd eu ffurf yn darfod; Sheol fydd eu cartref.

15Ond bydd Duw'n gwaredu fy mywyd ac yn fy nghymryd o afael Sheol. Sela.

16Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethog a phan gynydda golud ei du375?,

17oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw, ac nid � ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.

18Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd, a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda,

19fe � at genhedlaeth ei hynafiaid, ac ni w�l oleuni byth mwy.

20Ni all neb aros mewn rhwysg; y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.