Salmau 5:1-12 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar ffliwtiau. Salm. I Ddafydd.0 Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD, ystyria fy nghwynfan;

2clyw fy nghri am gymorth, fy Mrenin a'm Duw.

3Arnat ti y gwedd�af, ARGLWYDD; yn y bore fe glywi fy llais. Yn y bore paratoaf ar dy gyfer, ac fe ddisgwyliaf.

4Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni, ni chaiff y drwg aros gyda thi,

5ni all y trahaus sefyll o'th flaen. Yr wyt yn cas�u'r holl wneuthurwyr drygioni

6ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd; ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus.

7Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th du375?, plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti.

8ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion, gwna dy ffordd yn union o'm blaen.

9Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau, y mae dinistr o'u mewn; bedd agored yw eu llwnc, a'u tafod yn llawn gweniaith.

10Dwg gosb arnynt, O Dduw, bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion; bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodau am iddynt wrthryfela yn dy erbyn.

11Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau, a chanu mewn llawenydd yn wastad; bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw, fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.

12Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn, ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>