Salmau 54:1-7 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Masc�l. I Ddafydd, pan ddaeth y Siffiaid at Saul a dweud, "Y mae Dafydd yn cuddio yn ein mysg."0 O Dduw, gwareda fi trwy dy enw, a thrwy dy nerth cyfiawnha fi.

2O Dduw, gwrando fy ngweddi, rho glust i eiriau fy ngenau.

3Oherwydd cododd gwu375?r trahaus yn fy erbyn, ac y mae gwu375?r didostur yn ceisio fy mywyd; nid ydynt yn meddwl am Dduw. Sela.

4Wele, Duw yw fy nghynorthwywr, fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd.

5Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion! Trwy dy wirionedd diddyma hwy.

6Aberthaf yn ewyllysgar i ti; clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw;

7oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder, a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>