Salmau 57:1-11 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan ddihangodd rhag Saul yn yr ogof.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu; yng nghysgod dy adenydd y mae fy lloches nes i'r stormydd fynd heibio.

2Galwaf ar y Duw Goruchaf, ar y Duw sy'n gweithredu drosof.

3Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu; bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf; Sela. bydd Duw yn anfon ei gariad a'i wirionedd.

4Yr wyf yn byw yng nghanol llewod, rhai sy'n traflyncu pobl, a'u dannedd yn bicellau a saethau, a'u tafod yn gleddyf miniog.

5Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.

6Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed, ac wedi darostwng fy mywyd; y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer, ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo. Sela.

7Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw, y mae fy nghalon yn gadarn; fe ganaf a rhoi mawl.

8Deffro, fy enaid, deffro di, nabl a thelyn. Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.

9Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd, a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,

10oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

11Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.