11 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. I Ddafydd. Michtam.0 Chwi gedyrn, a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn? A ydych yn barnu pobl yn deg?
2Na! Yr ydych �'ch calonnau'n dyfeisio drygioni, ac �'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.
3Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth, a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.
4Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff, fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,
5a heb wrando ar sain y swynwr sy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.
6O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau, diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.
7Bydded iddynt ddiflannu fel du373?r a mynd ymaith, a chrino fel gwellt a sethrir;
8byddant fel erthyl sy'n diflannu, ac fel marw-anedig na w�l olau dydd.
9Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio; yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.
10Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd, ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.
11A dywed pobl, "Yn ddi-os y mae gwobr i'r cyfiawn; oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear."