Salmau 59:1-17 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan anfonodd Saul rai i wylio ei gartref er mwyn ei ladd.0 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O fy Nuw; amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwyr.

2Gwared fi oddi wrth wneuthurwyr drygioni, ac achub fi rhag rhai gwaedlyd.

3Oherwydd wele, gosodant gynllwyn am fy einioes; y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf. Heb fod trosedd na phechod ynof fi, ARGLWYDD,

4heb fod drygioni ynof fi, rhedant i baratoi i'm herbyn. Cyfod, tyrd ataf ac edrych.

5Ti, ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yw Duw Israel; deffro a chosba'r holl genhedloedd; paid � thrugarhau wrth y drygionus dichellgar. Sela.

6Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cu373?n ac yn prowla trwy'r ddinas.

7Wele, y mae eu genau'n glafoerio, y mae cleddyf rhwng eu gweflau. "Pwy," meddant, "sy'n clywed?"

8Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennau ac yn gwawdio'r holl genhedloedd.

9O fy Nerth, disgwyliaf wrthyt, oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.

10Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid; O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.

11Paid �'u lladd rhag i'm pobl anghofio; gwasgar hwy �'th nerth a darostwng hwy, O Arglwydd, ein tarian.

12Am bechod eu genau a gair eu gwefusau, dalier hwy gan eu balchder eu hunain. Am y melltithion a'r celwyddau a lefarant,

13difa hwy yn dy lid, difa hwy'n llwyr, fel y bydd yn wybyddus hyd derfynau'r ddaear mai Duw sy'n llywodraethu yn Jacob. Sela.

14Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cu373?n ac yn prowla trwy'r ddinas.

15Crwydrant gan chwilio am fwyd, a grwgnach onis digonir.

16Ond canaf fi am dy nerth, a gorfoleddu yn y bore am dy ffyddlondeb; oherwydd buost yn amddiffynfa i mi ac yn noddfa yn nydd fy nghyfyngder.

17O fy Nerth, canaf fawl i ti, oherwydd Duw yw f'amddiffynfa, fy Nuw trugarog.