Salmau 61:1-8 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. I Ddafydd.0 Clyw fy nghri, O Dduw, a gwrando ar fy ngweddi;

2o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat, pan yw fy nghalon ar suddo. Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;

3oherwydd buost ti'n gysgod imi, yn du373?r cadarn rhag y gelyn.

4Gad imi aros yn dy babell am byth, a llochesu dan gysgod dy adenydd. Sela.

5Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau, a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.

6Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin, a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau;

7bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth; bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto.

8Felly y canmolaf dy enw byth, a thalu fy addunedau ddydd ar �l dydd.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>