Salmau 64:1-10 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno; achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn,

2cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionus a rhag dichell gwneuthurwyr drygioni �

3rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf, ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,

4i saethu'r dieuog o'r dirgel, i saethu'n sydyn a di-ofn.

5Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg, ac yn s�n am osod maglau o'r golwg, a dweud, "Pwy all ein gweld?"

6Y maent yn dyfeisio drygioni, ac yn cuddio'u dyfeisiadau; y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!

7Ond bydd Duw'n eu saethu �'i saeth; yn sydyn y daw eu cwymp.

8Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod, a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau.

9Daw ofn ar bawb, a byddant yn adrodd am waith Duw, ac yn deall yr hyn a wnaeth.

10Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD, a llochesu ynddo, a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.