11 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. C�n.0 Mawl sy'n ddyledus i ti, O Dduw, yn Seion;
2ac i ti, sy'n gwrando gweddi, y telir adduned.
3Atat ti y daw pob un �'i gyffes o bechod: "Y mae ein troseddau'n drech na ni, ond yr wyt ti'n eu maddau."
4Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos, iddo gael preswylio yn dy gynteddau; digoner ninnau � daioni dy du375?, dy deml sanctaidd.
5Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni � buddugoliaeth, O Dduw ein hiachawdwriaeth; ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaear a phellafoedd y m�r;
6gosodi'r mynyddoedd yn eu lle �'th nerth, yr wyt wedi dy wregysu � chryfder;
7yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd, rhu eu tonnau, a therfysg pobloedd.
8Y mae trigolion cyrion y byd yn ofni dy arwyddion; gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau.
9Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi'n doreithiog iawn; y mae afon Duw'n llawn o ddu373?r; darperaist iddynt u375?d. Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:
10dyfrhau ei rhychau, gwastat�u ei chefnau, ei mwydo � chawodydd a bendithio'i chnwd.
11Yr wyt yn coroni'r flwyddyn �'th ddaioni, ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.
12Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu, a'r bryniau wedi eu gwregysu � llawenydd;
13y mae'r dolydd wedi eu gwisgo � defaid, a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag u375?d. Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.