Salmau 66:1-20 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: C�n. Salm.0 Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;

2canwch i ogoniant ei enw; rhowch iddo foliant gogoneddus.

3Dywedwch wrth Dduw, "Mor ofnadwy yw dy weithredoedd! Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen;

4y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen, ac yn canu mawl i ti, yn canu mawl i'th enw." Sela.

5Dewch i weld yr hyn a wnaeth Duw � y mae'n ofnadwy yn ei weithredoedd tuag at bobl �

6trodd y m�r yn sychdir, aethant ar droed trwy'r afon; yno y llawenychwn ynddo.

7Y mae ef yn llywodraethu �'i nerth am byth, a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd; na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn! Sela.

8Bendithiwch ein Duw, O bobloedd, a seiniwch ei fawl yn glywadwy.

9Ef a roes le i ni ymysg y byw, ac ni adawodd i'n troed lithro.

10Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw, ac yn ein coethi fel arian.

11Dygaist ni i'r rhwyd, rhoist rwymau amdanom,

12gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau, aethom trwy d�n a dyfroedd; ond dygaist ni allan i ryddid.

13Dof i'th deml � phoethoffrymau, talaf i ti fy addunedau,

14a wneuthum �'m gwefusau ac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.

15Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau, a hefyd hyrddod yn arogldarth; darparaf ychen a bychod geifr. Sela.

16Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw, ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.

17Gwaeddais arno �'m genau, ac yr oedd moliant ar fy nhafod.

18Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon, ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;

19ond yn wir, gwrandawodd Duw, a rhoes sylw i lef fy ngweddi.

20Bendigedig fyddo Duw am na throdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.