Salmau 67:1-7 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. C�n.0 Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio, bydded llewyrch ei wyneb arnom, Sela.

2er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear, a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.

3Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di.

4Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu, oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir, ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear. Sela.

5Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw, bydded i'r holl bobloedd dy foli di.

6Rhoes y ddaear ei chnwd; Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.

7Bendithiodd Duw ni; bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>