11 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm. C�n.0 Bydded i Dduw godi, ac i'w elynion wasgaru, ac i'r rhai sy'n ei gas�u ffoi o'i flaen.
2Fel y chwelir mwg, chw�l hwy; fel cwyr yn toddi o flaen t�n, bydded i'r drygionus ddarfod o flaen Duw.
3Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau; y maent yn gorfoleddu gerbron Duw ac yn ymhyfrydu mewn llawenydd.
4Canwch i Dduw, molwch ei enw, paratowch ffordd i'r un sy'n marchogaeth trwy'r anialdir; yr ARGLWYDD yw ei enw, gorfoleddwch o'i flaen.
5Tad yr amddifaid ac amddiffynnydd y gweddwon yw Duw yn ei drigfan sanctaidd.
6Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref, ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd; ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch.
7O Dduw, pan aethost ti allan o flaen dy bobl, a gorymdeithio ar draws yr anialwch, Sela.
8crynodd y ddaear a glawiodd y nefoedd o flaen Duw, Duw Sinai, o flaen Duw, Duw Israel.
9Tywelltaist ddigonedd o law, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd ar ddiffygio;
10cafodd dy braidd le i fyw ynddi, ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.
11Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair, ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da
12fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys; y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail �
13er eu bod wedi aros ymysg y corlannau � y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian, a'i hesgyll yn aur melyn.
14Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno, yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon.
15Mynydd cadarn yw Mynydd Basan, mynydd o gopaon yw Mynydd Basan.
16O fynydd y copaon, pam yr edrychi'n eiddigeddus ar y mynydd lle dewisodd Duw drigo, lle bydd yr ARGLWYDD yn trigo am byth?
17Yr oedd cerbydau Duw yn ugain mil, yn filoedd ar filoedd, pan ddaeth yr Arglwydd o Sinai mewn sancteiddrwydd.
18Aethost i fyny i'r uchelder gyda chaethion ar dy �l, a derbyniaist anrhegion gan bobl, hyd yn oed gwrthryfelwyr, er mwyn i'r ARGLWYDD Dduw drigo yno.
19Bendigedig yw'r Arglwydd, sy'n ein cario ddydd ar �l dydd; Duw yw ein hiachawdwriaeth. Sela.
20Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni; gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.
21Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion, pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd.
22Dywedodd yr Arglwydd, "Dof � hwy'n �l o Basan, dof � hwy'n �l o waelodion y m�r,
23er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed, ac i dafodau dy gu373?n gael eu cyfran o'r gelynion."
24Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw, gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr �
25y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn, a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.
26Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw, a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.
27Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain, a thyrfa tywysogion Jwda, tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.
28O Dduw, dangos dy rym, y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.
29O achos dy deml yn Jerwsalem daw brenhinoedd ag anrhegion i ti.
30Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd, y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl; sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian, gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.
31Bydded iddynt ddod � phres o'r Aifft; brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.
32Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear; rhowch foliant i'r Arglwydd, Sela.
33i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed. Clywch! Y mae'n llefaru �'i lais nerthol.
34Cydnabyddwch nerth Duw; y mae ei ogoniant uwchben Israel a'i rym yn y ffurfafen.
35Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr; y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl. Bendigedig fyddo Duw.