11 Siggaion. I Ddafydd, a ganodd i'r ARGLWYDD ynglu375?n � Cus o Benjamin.0 O ARGLWYDD fy Nuw, ynot ti y llochesaf; gwared fi rhag fy holl erlidwyr, ac arbed fi,
2rhag iddynt fy llarpio fel llew, a'm darnio heb neb i'm gwaredu.
3O ARGLWYDD fy Nuw, os gwneuthum hyn � os oes twyll ar fy nwylo,
4os telais ddrwg am dda i'm cyfaill, ac ysbeilio fy ngwrthwynebwr heb achos �
5bydded i'm gelyn fy erlid a'm dal, bydded iddo sathru fy einioes i'r ddaear, a gosod f'anrhydedd yn y llwch. Sela.
6Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig; cyfod yn erbyn llid fy ngelynion; deffro, fy Nuw, i drefnu barn.
7Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch; eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.
8O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd, barna fi yn �l fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD, ac yn �l y cywirdeb sydd ynof.
9Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus, ond cadarnha di y cyfiawn, ti sy'n profi meddyliau a chalonnau, ti Dduw cyfiawn.
10Duw yw fy nharian, ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.
11Duw sydd farnwr cyfiawn, a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
12Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto, yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;
13y mae'n darparu ei arfau marwol, ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.
14Y mae'n feichiog o ddrygioni, yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.
15Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio, ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.
16Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun, ac ar ei ben ef y disgyn ei drais.
17Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder, a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.