Salmau 71:1-24 BCN1988 - Bible AI

1Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches; na fydded cywilydd arnaf byth.

2Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi, tro dy glust ataf ac arbed fi.

3Bydd yn graig noddfa i mi, yn amddiffynfa i'm cadw, oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.

4O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus, o afael yr anghyfiawn a'r creulon.

5Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith, fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.

6Arnat ti y b�m yn pwyso o'm genedigaeth; ti a'm tynnodd allan o groth fy mam. Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.

7B�m fel pe'n rhybudd i lawer; ond ti yw fy noddfa gadarn.

8Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliant ac o'th ogoniant bob amser.

9Paid �'m bwrw ymaith yn amser henaint; paid �'m gadael pan fydd fy nerth yn pallu.

10Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf, a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd,

11ac yn dweud, "Y mae Duw wedi ei adael; ewch ar ei �l a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd."

12O Dduw, paid � phellhau oddi wrthyf; O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo.

13Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr, a gwaradwydd yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu.

14Ond byddaf fi'n disgwyl yn wastad, ac yn dy foli'n fwy ac yn fwy.

15Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder a'th weithredoedd achubol trwy'r amser, oherwydd ni wn eu nifer.

16Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW; soniaf am dy gyfiawnder di yn unig.

17O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid, ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau;

18a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid �'m gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi.

19Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw, yn cyrraedd i'r uchelder, oherwydd iti wneud pethau mawr. O Dduw, pwy sydd fel tydi?

20Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw, fydd yn fy adfywio drachefn; ac o ddyfnderau'r ddaear fe'm dygi i fyny unwaith eto.

21Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd, ac yn troi i'm cysuro.

22Byddaf finnau'n dy foliannu �'r nabl am dy ffyddlondeb, O fy Nuw; byddaf yn canu i ti �'r delyn, O Sanct Israel.

23Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen � oherwydd canaf i ti � a hefyd yr enaid a waredaist.

24Bydd fy nhafod beunydd yn s�n am dy gyfiawnder; oherwydd daeth cywilydd a gwaradwydd ar y rhai a fu'n ceisio fy nrygu.