11 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Salm. I Asaff. C�n.0 Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti; y mae dy enw yn agos wrth adrodd am dy ryfeddodau.
2Manteisiaf ar yr amser penodedig, ac yna barnaf yn gywir.
3Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion, myfi sy'n cynnal ei cholofnau. Sela.
4Dywedaf wrth yr ymffrostgar, "Peidiwch ag ymffrostio", ac wrth y drygionus, "Peidiwch � chodi'ch corn;
5peidiwch � chodi'ch corn yn uchel na siarad yn haerllug wrth eich Craig."
6Nid o'r dwyrain na'r gorllewin nac o'r anialwch y bydd dyrchafu,
7ond Duw fydd yn barnu � yn darostwng y naill ac yn codi'r llall.
8Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD, a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu; fe dywallt ddiod ohono, a bydd holl rai drygionus y ddaear yn ei yfed i'r gwaelod.
9Ond clodforaf fi am byth, a chanaf fawl i Dduw Jacob,
10am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus, a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.