Salmau 76:1-12 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. Salm. I Asaff. C�n.0 Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda, a'i enw'n fawr yn Israel;

2y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem, a'i gartref yn Seion.

3Yno fe faluriodd y saethau tanllyd, y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel. Sela.

4Ofnadwy wyt ti, a chryfach na'r mynyddoedd tragwyddol.

5Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon, y maent wedi suddo i gwsg, a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.

6Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, syfrdanwyd y marchog a'r march.

7Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaen pan fyddi'n ddig?

8Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd; ofnodd y ddaear a distewi

9pan gododd Duw i farnu, ac i waredu holl drueiniaid y ddaear. Sela.

10Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu, a gweddill Hamath yn cadw gu373?yl i ti.

11Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu; bydded i bawb o'i amgylch ddod � rhoddion i'r un ofnadwy.

12Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion, ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.