Salmau 77:1-20 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. I Asaff. Salm.0 Gwaeddais yn uchel ar Dduw, yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi.

2Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino; nid oedd cysuro ar fy enaid.

3Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno; pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd. Sela.

4Cedwaist fy llygaid rhag cau; fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.

5Af yn �l i'r dyddiau gynt a chofio am y blynyddoedd a fu;

6meddyliaf ynof fy hun yn y nos, myfyriaf, a'm holi fy hunan,

7A wrthyd yr Arglwydd am byth, a pheidio � gwneud ffafr mwyach?

8A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr, a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?

9A yw Duw wedi anghofio trugarhau? A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?" Sela.

10Yna dywedais, "Hyn yw fy ngofid: A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?

11Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD, a chofio am dy ryfeddodau gynt.

12Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd.

13O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd; pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?

14Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol; dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.

15�'th fraich gwaredaist dy bobl, disgynyddion Jacob a Joseff. Sela.

16Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw, gwelodd y dyfroedd di ac arswydo; yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.

17Tywalltodd y cymylau ddu373?r, ac yr oedd y ffurfafen yn taranu; fflachiodd dy saethau ar bob llaw.

18Yr oedd su373?n dy daranau yn y corwynt, goleuodd dy fellt y byd; ysgydwodd y ddaear a chrynu.

19Aeth dy ffordd drwy'r m�r, a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol; ond ni welwyd �l dy gamau.

20Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron.