Salmau 79:1-13 BCN1988 - Bible AI

11 Salm. I Asaff.0 O Dduw, daeth y cenhedloedd i'th etifeddiaeth, a halogi dy deml sanctaidd, a gwneud Jerwsalem yn adfeilion.

2Rhoesant gyrff dy weision yn fwyd i adar yr awyr, a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.

3Y maent wedi tywallt gwaed fel du373?r o amgylch Jerwsalem, ac nid oes neb i'w claddu.

4Aethom yn watwar i'n cymdogion, yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.

5Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth? A yw dy eiddigedd i losgi fel t�n?

6Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teyrnasoedd nad ydynt yn galw ar dy enw,

7am iddynt ysu Jacob a difetha ei drigfan.

8Paid � dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid, ond doed dy dosturi atom ar frys, oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.

9Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, oherwydd anrhydedd dy enw; gwared ni, a maddau ein pechodau er mwyn dy enw.

10Pam y caiff y cenhedloedd ddweud, "Ple mae eu Duw?" Dysger y cenhedloedd yn ein gu373?ydd beth yw dy ddialedd am waed tywalltedig dy weision.

11Doed ochneidio'r carcharorion hyd atat, ac yn dy nerth mawr arbed y rhai oedd i farw.

12Taro'n �l seithwaith i'n cymdogion, a hynny i'r byw, y gwatwar a wn�nt wrth dy ddifr�o, O Arglwydd.

13Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa, yn dy foliannu am byth, ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.