Salmau 8:1-9 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, ein I�r, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd,

2codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd.

3Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r s�r, a roddaist yn eu lle,

4beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?

5Eto gwnaethost ef ychydig islaw duw a'i goroni � gogoniant ac anrhydedd.

6Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed:

7defaid ac ychen i gyd, yr anifeiliaid gwylltion hefyd,

8adar y nefoedd, a physgod y m�r, a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd.

9O ARGLWYDD, ein I�r, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

British and Foreign Bible Society, 1988
div>