Salmau 80:1-19 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar Lil�au. Tystiolaeth. I Asaff. Salm.0 Gwrando, O fugail Israel, sy'n arwain Joseff fel diadell.

2Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid, disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse. Gwna i'th nerth gyffroi, a thyrd i'n gwaredu.

3Adfer ni, O Dduw; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

4O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, am ba hyd y byddi'n ddig wrth wedd�au dy bobl?

5Yr wyt wedi eu bwydo � bara dagrau, a'u diodi � mesur llawn o ddagrau.

6Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion, ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.

7O Dduw'r Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.

8Daethost � gwinwydden o'r Aifft; gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;

9cliriaist y tir iddi; magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.

10Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd, a'i changau fel y cedrwydd cryfion;

11estynnodd ei brigau at y m�r, a'i blagur at yr afon.

12Pam felly y bylchaist ei chloddiau, fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?

13Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu, ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.

14O Dduw'r Lluoedd, tro eto, edrych i lawr o'r nefoedd a gw�l, gofala am y winwydden hon,

15y planhigyn a blennaist �'th ddeheulaw, y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu.

16Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi � th�n ac yn ei thorri i lawr gael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.

17Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw, ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.

18Ni thrown oddi wrthyt mwyach; adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.

19ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.