Salmau 82:1-8 BCN1988 - Bible AI

11 Salm. I Asaff.0 Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol; yng nghanol y duwiau y mae'n barnu.

2Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn, ac y dangoswch ffafr at y drygionus? Sela.

3Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder �'r truenus a'r diymgeledd.

4Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus.

5Nid ydynt yn gwybod nac yn deall, ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch, a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd.

6Fe ddywedais i, 'Duwiau ydych, a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.'

7Eto, byddwch farw fel meidrolion, a syrthio fel unrhyw dywysog."

8Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear, oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>