Salmau 84:1-12 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I feibion Cora. Salm.0 Mor brydferth yw dy breswylfod, O ARGLWYDD y Lluoedd.

2Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg am gynteddau'r ARGLWYDD; y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw.

3Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref, a'r wennol nyth iddi ei hun, lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di, O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.

4Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy du375?, yn canu mawl i ti'n wastadol.

5Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt, a ffordd y pererinion yn eu calon.

6Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca fe'i c�nt yn ffynnon; bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio � bendith.

7�nt o nerth i nerth, a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.

8O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi; gwrando arnaf, O Dduw Jacob. Sela.

9Edrych ar ein tarian, O Dduw; rho ffafr i'th eneiniog.

10Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil gartref; gwell sefyll wrth y drws yn nhu375? fy Nuw na thrigo ym mhebyll drygioni.

11Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.

12O ARGLWYDD y Lluoedd, gwyn ei fyd y sawl sy'n ymddiried ynot.