Salmau 87:1-7 BCN1988 - Bible AI

11 I feibion Cora. Salm. C�n.0 Ar fynyddoedd sanctaidd y sylfaenodd hi;

2y mae'r ARGLWYDD yn caru pyrth Seion yn fwy na holl drigfannau Jacob.

3Dywedir pethau gogoneddus amdanat ti, O ddinas Duw. Sela.

4Yr wyf yn enwi Rahab a Babilon ymysg y rhai sy'n fy nghydnabod; am Philistia, Tyrus ac Ethiopia fe ddywedir, 'Ganwyd hwy yno'."

5Ac fe ddywedir am Seion, "Ganwyd hwn-a-hwn ynddi; y Goruchaf ei hun sy'n ei sefydlu hi."

6Bydd yr ARGLWYDD, wrth restru'r bobl, yn ysgrifennu, "Ganwyd hwy yno." Sela.

7Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud, "Y mae fy holl darddiadau ynot ti."

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>