Salmau 9:1-20 BCN1988 - Bible AI

11 I'r Cyfarwyddwr: ar Muth-labben. Salm. I Ddafydd.0 Diolchaf i ti, ARGLWYDD, �'m holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau.

2Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.

3Pan dry fy ngelynion yn eu holau, baglant a threngi o'th flaen.

4Gwnaethost yn deg � mi yn fy achos, ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.

5Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus, a dileaist eu henw am byth.

6Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol; yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd, a diflannodd y cof amdanynt.

7Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn.

8Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg.

9Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,

10fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.

11Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

12Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt; nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.

13Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau; edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghas�u,

14imi gael adrodd dy holl fawl a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.

15Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain, daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.

16Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela.

17Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol, a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.

18Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth, ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.

19Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion, ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.

20Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD, a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt. Sela.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>